You are using the web browser we don't support. Please upgrade or use a different browser to improve your experience.
"icon arrow top"

Swyddog Bioamrywiaeth Gogledd Cymru New

407094

Ad Warrior Ltd

£29,937 per annum

Conwy, Wales

Environment

Contract | Part Time

ASAP

28/04/2025

26/05/2025

Un Llais Cymru

Swyddog Bioamrywiaeth - Gogledd Cymru

Rhan-Amser 4 diwrnod yr wythnos (30Awr)

Cyflog: £29,937 y flwyddyn (£36,922 CLlA)

(Codiad Cyflog yn yr Arfaeth)

Cyfnod sefydlog tan fis Mawrth 2027

(Caiff y rôl hon ei hariannu'n llawn gan raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru)

Un Llais Cymru yw'r prif gorff aelodaeth ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru. Yn dilyn 4 blynedd lwyddiannus yn datblygu a hyrwyddo bioamrywiaeth ac adferiad natur o fewn rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, rydym yn ehangu ein tîm.

Bydd Swyddog Bioamrywiaeth newydd Gogledd Cymru yn cynorthwyo Rheolydd y Rhaglen i gyflawni nodau ac amcanion rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru ar draws y sector Cynghorau Cymuned a Thref.

Rydym yn chwilio am rywun sy'n frwdfrydig ac yn meddu ar lefelau uchel o gymhelliant am adferiad natur, rhywogaethau brodorol a hyrwyddo bioamrywiaeth. Byddwch yn cynnig cefnogaeth ymarferol, cyngor arbenigol a hyfforddiant i'r sector ar adferiad natur a glasu'r stad gyhoeddus ac yn eu cynorthwyo i reoli tir amwynder yn effeithiol ar gyfer bioamrywiaeth. Byddwch yn eiriolydd ar ran y sector ac yn cynrychioli eu hanghenion ac yn hwyluso perthnasoedd cadarnhaol rhwng Cynghorau Cymuned a Thref a mudiadau eraill.

Bydd y rôl hon yn rhoi'r cyfle ichi wneud gwahaniaeth gwirioneddol ar draws Cymru, trwy weithio gyda gwirfoddolwyr a Chynghorwyr ymroddedig i greu, gwella ac adfer natur ar y trothwy.

Byddwch yn gweithio'n rhan o dîm, ac yn adrodd yn uniongyrchol i Reolydd Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, ac fel aelod gwerthfawr o staff Un Llais Cymru, cewch eich cefnogi'n llawn gan y Prif Weithredwr a gweddill y tîm yma yn Un Llais Cymru.

Byddwch yn gweithio gartref ond bydd y rhaglen waith yn canolbwyntio'n bennaf ar Siroedd Gogleddol Cymru a bydd angen teithio rheolaidd ynghyd â pheth gwaith dros y Sul a gyda'r nos. Bydd angen ichi weithio yn yr awyr agored ymhob tywydd ac ar dirwedd o bob math. Mae bod yn siaradwr Cymraeg rhugl yn ddymunol ond nid yn hanfodol, ond mae sgiliau iaith Gymraeg o Lefel 1-3 neu'r parodrwydd i ddysgu yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Croeso i chi wneud cais yn Gymraeg neu'n Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.

Er mwyn gofyn am becyn gwneud cais ewch i Wefan Un Llais Cymru. Ni dderbynnir dogfennau CV Dyddiad Cau: Ganol nos ar y 23ain Mai 2025

https://www.unllaiscymru.cymru/cyfleoedd-a-ymgysylltu-a-un-llais-cymru/swyddi-un-llais-cymru/

Mae Un Llais Cymru yn Gyflogydd Cyfleoedd Cyfartal ac mae'n croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned