You are using the web browser we don't support. Please upgrade or use a different browser to improve your experience.
"icon arrow top"

Swyddog Datblygu Gogledd Cymru New

405725

Ad Warrior Ltd

£36,922 per year

Llandudno, Conwy, Wales

Public Sector

Permanent | Full Time

ASAP

02/01/2025

30/01/2025

Swyddog Datblygu Gogledd Cymru

£19.19 yr awr, isafswm 22 awr yr wythnos (£36922 FTE - pro rata £21954).

Parhaol. Dyddiad cau 19 Ionawr 2025 (Ganol Nos)

Un Llais Cymru yw'r corff cynrychioliadol cenedlaethol ar gyfer cynghorau cymuned a thref yng Nghymru, ac mae'n cynnig llais cryf i gynrychioli buddiannau cynghorau cymuned a thref ar lefel genedlaethol. Mae'n darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i gefnogi eu gwaith, gan gynnwys gwasanaethau gwybodaeth a chynghori, cymorth gyda pholisi a gweithdrefnau, gwasanaethau hyfforddiant a datblygu, gwasanaethau ymgynghorol, a chynrychioli a hyrwyddo'r sector.

Mae Un Llais Cymru yn chwilio am unigolyn deinamig a rhagweithiol i ymuno â'n tîm ac ymgymryd â rôl Swyddog Datblygu Gogledd Cymru.

Mwy am y Rôl

Byddwch yn chwarae rôl allweddol yn datblygu a chynnal perthynas waith agos ac effeithiol a chefnogi a chryfhau ein haelod gynghorau. Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys:

* Bod yn brif gyswllt ar gyfer aelod gynghorau a darparu cyngor ac arweiniad arbenigol.

* Trefnu a rheoli cyfarfodydd Pwyllgorau Ardal, gan gynnwys siaradwyr gwadd a chymryd cofnodion.

* Denu aelodau newydd trwy weithio gyda chynghorau.

* Llunio e-fwletinau misol diddorol a llawn gwybodaeth.

Beth Rydym yn Chwilio Amdano

I lwyddo yn y rôl hon, byddwch angen:

* Dealltwriaeth gadarn o lywodraeth leol yng Nghymru, a chynghorau cymuned a thref yn enwedig.

* Sgiliau rhyngbersonol eithriadol, ac mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn rhugl yn hanfodol.

* Y gallu i weithio'n annibynnol (byddwch yn gweithio o'ch cartref) ac i fod yn rhan annatod o dîm cydweithredol.

* Sgiliau TGCh cryf a'r gallu i sylwi ar fanylion.

Byddai cymhwyster yn gysylltiedig â'r sector yn fonws, ac er bod yr oriau'n hyblyg, bydd angen gweithio gyda'r nos o bryd i'w gilydd ac ar ambell ddydd Sadwrn.

Pam Ymuno â Ni?

Mae hon yn fwy na swydd - mae'n gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol trwy gefnogi cynghorau lleol i gyflawni dros eu cymunedau a chreu gwell Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

I gael mwy o fanylion am y swydd, gan gynnwys y disgrifiad swydd, manyleb berson a ffurflen gais, gwasgwch ar y ddolen ganlynol: http://www.unllaiscymru.org.uk/

SYLWER: NI DDERBYNNIR DOGFENNAU CV